Y Deml Heddwch: Llogi digwyddiad

Mae adeiladau eiconig yn arwain at brofiadau cofiadwy ac rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau dinesig, ddathliadau personol, trafodaethau, cynadleddau, arddangosfeydd a darparu lleoliadau ffilmio i raglenni teledu Sherlock a Doctor Who y BBC. Beth bynnag fo’ch digwyddiad, mae gennym gyfleusterau i ateb eich anghenion neu mae gennym bartneriaethau â chyflenwyr sy’n gallu sicrhau bod gennych bob dim at eich digwyddiad.

Mae lle i 20 eistedd yn yr Ystafell Bwyllgor ar ffurf ystafell fwrdd neu 35 ar ffurf theatr, neu mae lle i 34 eistedd yn Siambr y Cyngor sydd â phaneli pren ar ffurf ystafell fwrdd, 60 ar ffurf theatr neu 84 o giniawyr preifat. Caiff costau siartiau troi, taflunydd, cyfleusterau galw cynadledda a the a choffi a bisgedi eu cynnwys ym mhob archeb.

Rydym yn codi £10 y pen am hanner diwrnod, £15 y pen am ddiwrnod llawn ar gyfer cyfarfodydd. Os mai dim ond yr ystafell rydych ei hangen, heb y defnydd o’r cyfleusterau arferol, mae’r pris yn gostwng i £5 y pen am hanner diwrnod a £10 y pen am ddiwrnod cyfan. Mae isafswm niferoedd yn berthnasol. Er mwyn trefnu digwyddiad preifat mewn ystafell fwyta, cysylltwch ag Emily i drafod.

Mae ein Neuadd Farmor yn aml-ddefnydd a gallwn ei threfnu ar ffurf cabaret, theatr, swper Hogwarts neu ei gadael yn wag at ba bynnag ddefnydd! Nid oes pris sefydlog ac mae’n ddibynnol ar y defnydd.

Gall elusennau cofrestredig neu sefydliadau di-elw gael gostyngiad o 30%.

Cysylltwch ag Emily ar 029 2022 8549 i drefnu ymweliad a thrafod eich anghenion.

Cyfleusterau yn y Deml Heddwch

  • Math o leoliad: Trwydded seremoni sifil
  • Defnydd unigryw ar gael
  • Yn y Ddinas
  • Hanesyddol
  • Maes Parcio am ddim
  • Neuadd Farmor Celf Deco
  • Siambr â Muriau Pren
  • Ystafell breifat ar gyfer y Cofrestrydd
  • Lawntiau i Bebyll Mawrion yn y Gwanwyn/Haf
  • Mynediad i bobl anabl
  • Cegin anfasnachol i godi bwyd a gweini yn unig

Rhestr o gyflenwyr nodedig ar gyfer arlwyo, systemau sain a décor/llwyfannu. Derbynnir cyflenwyr allanol yn amodol ar ffi drwy drafodaeth.

Cynhwysedd

Y Siambr Cyngor gyda’i muriau pren yn dal 60 o westeion

Neuadd Farmor Celf Deco yn dal hyd at 190 o westeion

wcia